S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Drama

Ar gael nawr

  • Cyfres newydd: Creisis

    Cyfres newydd: Creisis

    S4C, S4C Clic a BBC iPlayer

    Ar gael nawr ar S4C Clic

    Drama chwe rhan gynhyrfus, newydd sbon.

    Mae Jamie Morris yn gweithio mewn tîm Argyfwng Iechyd Meddwl yng nghymoedd De Cymru; dyn sydd bob amser wedi torri corneli ac wedi mynd un cam ymhellach i'w gleifion. Ond mae Jamie yn gorwynt o anhrefn, yn jyglo un argyfwng ar ôl y llall gartref, yn y gwaith ac ar y strydoedd. Mae ei swydd yn ei gadw ar y rheng flaen, yn gofalu am y bobl fwyaf bregus yn ei gymuned, ond ar ba gost i'w les ei hun?

  • Bariau

    Bariau

    Gwylio nawr ar S4C Clic a BBC iPlayer

    Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.

  • Drama gomedi dywyll a chwareus: Pren ar y Bryn

    Drama gomedi dywyll a chwareus: Pren ar y Bryn

    Ar gael ar S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer

    Drama swreal newydd. Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.

  • Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Mae teulu'r Iard yn derbyn newyddion drwg sy'n effeithio ar pawb. Bydd y busnes yn sicr o ddioddef ond Iolo ac Anest fydd yn profi'r newid mwyaf. Mae newidiadau ar droed i Sophie hefyd, ac mae'r hyn mae hithau'n mynd drwyddo'n amharu'n fawr ar fywydau Dylan, Mair a Llew. Pan mae teuluoedd yn wynebu trafferthion, dyma'r amser i'r holl aelodau ddod ynghyd ac uno i wrthsefyll problemau. Ond dan amgylchiadau fel hyn hefyd, mae ambell beth yn cael ei ddweud nad ydynt yn hawdd iawn eu maddau.

  • Pobol y Cwm - Cyfres 2024

    Pobol y Cwm - Cyfres 2024

    Mae Kath yn gandryll efo Brynmor wedi iddo fygwth Mark. Sut fydd y pentrefwyr yn mwynhau set Sion yn y noson gomedi'

  • Heliwr 3

    Heliwr 3

    Mae Barone yn aros mewn lleoliad annhebygol er mwyn iddo allu treulio amser gyda'i ferch. Mae'r Mafia a'r erlyniad ill dau yn gobeithio torri trwy systemau amddiffyn cymhleth ei gilydd. Ond sut'

  • Achub Mynydd

    Achub Mynydd

    Drama o Sweden yn dilyn bywydau ymatebwyr cyntaf yng nghyrchfan fynydd hyfryd Are: lleoliad sydd mor syfrdanol ag y mae'n beryglus.

  • None

    Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs

    Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl

  • Astrid

    Astrid

    Drama drosedd Ffrengig gyffrous gan Walter Presents. Mae'r ditectif a thorrwr rheolau, Raphaelle Coste, yn gweithio gyda'r archifydd awtistig Astrid Nielsen i helpu i ddatrys achosion anhydrin.

  • Bariau

    Bariau

    Rhagflas o Bariau - Pob pennod o'r gyfres newydd hon ar gael o Ionawr 3.

  • Rownd a Rownd

    Rownd a Rownd

    S4C Clic

    Cyfres ddrama boblogaidd wedi'i lleoli yn y gogledd.

  • Pobol y Cwm

    Pobol y Cwm

    S4C Clic

    Cyfres sebon wedi'i lleoli mewn pentref o'r enw Cwmderi.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?