S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Ffeithiol

Ar gael nawr

  • Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd

    Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd

    Ym mhennod olaf y gyfres, mae Alun, Chris a Kiri ymweld â phyllau daearwresol sanctaidd y Maori yn Rotorua, cyn cael bath mwd a gwers syrffio mewn storm!

  • Cais Quinnell

    Cais Quinnell

    Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi Scott Quinnell yn mynd ar hyd a lled Cymru yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth gael llond ei fol o hwyl. Yr wythnos hon mae'n rhoi cynnig ar arlunio byw, Cartio ac yn cael gwers arwyddo Makaton.

  • Ar Brawf

    Ar Brawf

    Rhaid i Darren gydymffurfio â thag cyrffyw rhwng 7pm a 7am a phrofion cyffuriau ar hap er mwyn osgoi cael ei anfon yn ôl i'r carchar. Mae gan Chloe hanes gwael o ddod i'w hapwyntiadau ac mae hi mewn perygl o gael ei gyrru'r llys eto. Nerys a Jo ydy'r Swyddogion Gwasanaeth Prawf sy'n gorfod rheoli ymddygiad y ddau yn y gymuned er mwyn ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.

  • Ar Werth

    Ar Werth

    Dilynwn rai o werthwyr tai amlycaf Cymru gan brofi'r holl emosiwn a'r ddrama sy'n dod gyda rhoi ty ar werth.

  • Dan Do

    Dan Do

    Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn ni'n edrych ar fwthyn sydd wedi ei estynnu a'i adnewyddu gan y perchennog, cartref sy'n llawn dodrefn a thrugareddau retro ym Mhorthcawl, a thŷ Fictoraidd anhygoel ym Mhenarth sydd wedi ei drawsnewid gan y perchnogion.

  • None

    Strip

    Mae criw o stripwyr yn anelu at roi Rhyl yn ôl ar y map gyda'u clybiau strip unigryw.

  • Y Gêm

    Y Gêm

    Y tro hwn, mae Owain Tudur Jones yn siarad gyda'r chwaraewr dartiau, Jonny Clayton.

  • Mwy o Ffeithiol

    Mwy o Ffeithiol

    Cliciwch isod i weld mwy o raglenni Ffeithiol S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?